Dennis ac Enid Davies
Heno ar lwyfan y pafiliwn cyflwynwyd Medal John a Ceridwen Hughes i Dennis ac Enid Davies am eu cyfraniad gwirfoddol dros ieuenctid Cymru.
Fe gafodd Dennis ac Enid Davies eu henwebu gan bobol ifanc ardal Llanrwst.
Roedd ieuenctid yn awyddus i ddangos eu diolch i’r ddau am eu gwaith wrth arwain Aelwyd Bro Cernyw, Adran Bentref Carmel ac Aelwyd Llanrwst ers bron y ddeugain mlynedd.
Yn 1974 Dennis oedd sefydlydd ac arweinydd cyntaf Aelwyd Bro Cernyw. Priododd Dennis ac Enid yn ystod y flwyddyn honno, gan symud o’r ardal, ac ers y 70au mae’r ddau wedi bod yn hyfforddi pobl ifanc Dyffryn Conwy ar gyfer Eisteddfod yr Urdd.
‘Sioc’
“Roedd cael gwybod y newyddion yn andros o sioc,” meddai meddai Enid Davies wrth Golwg360.
“Roedden ni wedi mynd i Lansannan i steddfod adrannau’r aelwydydd a gweld y teledu yna ac mi oedd Esyllt, y ferch wedi dweud eu bod nhw yno’n gwneud ymchwil.
“Roedden ni’n eistedd yno ac roedd y parti adrodd ar y llwyfan. Wedi iddyn nhw orffen – fe wnaethon nhw jest sefyll yno. Fe wnaethon nhw ddatgelu adeg honno ein bod ni wedi ennill y tlws – ac roedd hynny’n dipyn o sioc.
“Roedd y camera arnon ni ac fe fu’n rhaid i ni gerdded i fyny i’r llwyfan. Cyrhaeddon ni’r llwyfan ond roedd yn llawn, nid o’r aelodau oedden ni’n meddwl oedd yn yr eisteddfod, ond o’r hen griw – ac roedd hi’n fendigedig eu gweld nhw eto.
“Dw i’n credu bod yr Urdd yn andros o bwysig. I ddechrau, maen’n gyfle i bawb gymdeithasu gyda’i gilydd – cael hwyl a mwynhau ac mae hynny’n bwysig.”
Teulu
Mae Enid wedi bod yn rhedeg Aelwyd Llanrwst gyda’i gwr, Dennis ers 1986.
“Yr un yw’r diddordeb yng ngweithgareddau’r aelwyd ers y dechrau,” meddai.
“Dw i’n meddwl bod y plant wedi newid rhywsut… Yncl Dennis ac Anti Enid ydan ni di bod i’r to hyn. Ond, erbyn heddiw, rydan ni’n Enid a Dennis,” meddai.“Ond ti’n teimlo’n agos atyn nhw ‘run fath,” meddai.
“Mae Esyllt y ferch erbyn hyn yn helpu i gynnal yr aelwyd. Mae hi’n gyd-arweinydd â Dennis… Dw i’n gobeithio y bydd Esyllt yn cymryd yr awenau yn y pen draw.”
Mae’r Aelwyd yn cyfarfod bob pythefnos, rhwng hanner awr wedi saith a naw bob nos Fercher.