Y beirniaid oedd Rhys Davies (Cerdd) ac Aneirin Karadog (llenyddiaeth a llefaru). Cyfeiliwyd yn feistrolgar gan Gareth Wyn Thomas, Capel Hendre. Y llywydd anrhydeddus oedd Iona Jones, Caerdydd.
Agorwyd yr Eisteddfod gyda phlant yr ysgolion cynradd lleol yn canu, llefaru a chwarae offerynnau, ac roedd y neuadd yn orlawn. Wedi i’r cystadlu brwd ddod i ben, cafwyd feirniadaeth, a ddyfarnwyd gan Ioan a Joanna Evans, ar eitemau’r arlunio a llawysgrifen.
Yn hwyrach yn y prynhawn, cafwyd cystadlu agored o safon uchel iawn, gyda Joy Williams ac Alban Rees yn arwain o’r llwyfan.
Cadair fechan wedi ei chreu o wydr lliw oedd gwobr y bardd buddugol eleni a darn hardd o waith celfydd Tlws Jonhston, Buckinghamshire oedd hi. Cafwyd cystadlu brwd yng nghystadleuaeth y gadair, sef cerdd rydd neu gaeth heb fod dros 30 llinell ar y testun ‘Copa’. Dyfarnodd Aneirin Karadog, a arweiniodd y seremoni cadeirio, y gadair gyda chlod uchel i Rhys Gwynn o Ddolgellau, a oedd yn bresennol ar y noson. Cafwyd seremoni hyfryd, a gwelir y bardd buddugol gyda’r beirniad islaw.
Nid Rhys oedd unig ymgeisydd o’r teulu Gwynn a wnaeth argraff ar y beirniad Aneirin Karadog. Mab Rhys, Gruffydd Gwynn, 13 mlwydd oed oedd enillydd Tlws yr Ifanc dan 21. Mi wnaeth stori fer Gruffydd ddal sylw’r beirniad wrth iddi son am Heddlu Moch Daear Sir Benfro yn creu trafferth i wleidyddion. Yn ogystal, cyflwynir Tlws Mr a Mrs John Emanuel i Gruffydd Gwynn am greu’r gwaith gorau yn yr adran lenyddiaeth.
Hoffai Pwyllgor yr Eisteddfod ddiolch i bawb a gefnogodd a noddodd yr Eisteddfod eleni i’w gwneud yn llwyddiant.
Dyma ganlyniadau’r dydd:
Adran yr ysgolion lleol
Cystadleuaeth | 1af | 2ail | 3ydd |
Unawd Blwyddyn 2 ag iau | Ela, Ysgol Pontyberem | Adam, Ysgol Pontyberem | Ifan, Ysgol Pontyberem |
Llefaru Blwyddyn 2 ag iau | Ifan, Ysgol Pontyberem | Ela, Ysgol Pontyberem | Lowri, Ysgol Pontyberem |
Unawd Blwyddyn 3 a 4 | Alaw, Ysgol Pontyberem | Elis, Ysgol Pontyberem | Siobhan, Ysgol Pontyberem |
Llefaru Blwyddyn 3 a 4 | Alaw, Ysgol Pontyberem | Betsan, Ysgol Pontyberem | Elis, Ysgol Pontyberem |
Unawd Blwyddyn 5 a 6 | Sharna, Ysgol Pontyberem | Elan, Ysgol Pontyberem | Eli, Ysgol Pontyberem |
Llefaru Blwyddyn 5 a 6 | Mared, Ysgol Pontyberem | Sharna, Ysgol Pontyberem | Amber, Ysgol Pontyberem |
Unawd ar biano/unrhyw offeryn cerdd arall | Samuel, Ysgol Pontyberem | ||
Ysgrifennu i blant dan 12 | Daniel Hill, Ysgol Pontyberem | Alaw Evans, Ysgol Pontyberem | Mared Thomas, Ysgol Pontyberem |
Gwobr unigol i oed meithrin – arlunio | Olivia Bowen Phillips, Ysgol Feirthrin Bancffosfelen | ||
Arlunio dosbarth derbyn | Kaina James, Ysgol Pontyberem | Elan Thomas, Ysgol Pontyberem | Toni Ross, Ysgol Pontyberem |
Arlunio Blwyddyn 1 a 2 | Angharad Evans, Ysgol Pontyberem | Jade Reynods, Ysgol Pontyberem | Ela Mai Price, Ysgol Pontyberem |
Arlunio Blwyddyn 3 a 4 | Isabel Trigwell-Jones, Ysgol y Fro | Sarah Davies, Ysgol y Fro | Anwen Price, Ysgol Pontyberem |
Arlunio Blwyddyn 5 a 6 | Joanna Meliou, Ysgol y Fro | Steffan Jones, Ysgol y Fro | Caryl M Jones, Ysgol y Fro |
Llawysgrifen i rai rhywng 10-12 | Yazmin Evans-Morgan, Ysgol Pontyberem | Thomas Williams, Ysgol Pontyberem | Rebecca Wilson, Ysgol Bancffosfelen |
Ffotograffiaeth i rai rhwng 8 a 12 | Tilly Cole, Ysgol Pontyberem | Katia Rose, Ysgol Pontyberem | Tristan Jones, Ysgol Pontyberem |
Adran Agored
Cystadleuaeth | 1af | 2ail | 3ydd |
Unawd dan 6 | Iwan Rhys Bryer, Llanarthne | Sara Evans, Tregaron | |
Llefaru dan 6 | Sara Evans, Tregaron | Iwan Rhys Bryer, Llanarthne | |
Unawd 6 -8 | Erin Aled, Llanuwchllyn | Megan Bryer, Llanarthne | Sera Elan, Cwmann |
Llefaru 6 -8 | Megan Bryer, Llanarthne | Erin Aled, Llanuwchllyn | Sera Elan, Cwmann |
Unawd 8 – 10 | Sara Louise Davies, Synod Inn | Seren | Ffion Mair Gibbon, Pedair Heol |
Llefaru 8 – 10 | Sara Louise Davies, Synod Inn | Ffion Mair Gibbon, Pedair Heol | |
Unawd 10 -12 | Osian Knott, Bancycapel | Celyn Jones, Llanddarog | Mared Phillips, Llanfihangel-ar-Arth |
Llefaru 10 -12 | Mared Phillips, Llanfihangel-ar-Arth | ||
Canu emyn dan 12 | Sara Elan, Cwmann | Mared Phillips, Llanfihangel ar Arth | Cydradd 3ydd – Ffion Mair Gibbon, Pedair Heol a Sara Louise Davies, Synod Inn |
Unawd ar biano dan 12 | Erin Aled, Llanuwchllyn | Mared Phillips, Llanfihangel-ar-Arth | Ffion Mair Gibbon, Pedair Heol |
Unawd 12-15 | Gwenllian Phillips, Meidrim | Eirian Jones, Pontiets | |
Unawd ar unrhyw ar unrhyw offeryn cerdd(ac eithrio’r piano) dan 14 | Erin Aled, LlanuwchllynTelyn | Mared Phillips, Llanfihangel-ar-Arth Clarinet | |
Unawd Piano dan 15 | Gwenllian Phillips, Meidrim | ||
Unawd ar Biano dan 19 | Manon James, Croesyceiliog | ||
Unawd dan 19 | Caryl Lewis, Maenclochog | Cerys James, Castell Newydd Emlyn | Manon James, Croesyceiliog |
Cȃn allan o sioe gerdd | Caryl Lewis, Maenclochog | Emyr Evans, Cwmgwili | Cerys James, Castell Newydd Emlyn |
Llefaru dan 19 | Caryl Lewis, Maenclochog | Cerys James, Castell Newydd Emlyn | |
Canu Emyn | Gwenllian Phillips, Meidrim | Caryl Lewis, Maenclochog | Cerys James, Castell Newydd Emlyn |
Alaw Werin | Caryl Lewis, Maenclochog | Gwenllian Phillips, Meidrim | |
Cȏr 25 o leisiau neu lai | Cȏr Meibion Dyffryn Tywi | ||
Her Unawd | Caryl Lewis, Maenclochog | Gwynfor Harries, Blaenannerch | |
Her Adroddiad | Joy Parry, Cross Hands | Maria Evans, Alltwalis | Caryl Lewis, Maenclochog |
Cenwch i’m yr hen ganiadau | Gwynfor Harries, Blaenannerch |
Adran Llenyddiaeth
Cystadleuaeth | 1af | 2ail |
Tlws yr Ifanc(dan 21) – Un o’r canlynol: Stori Fer, Dyddiadur, Cerdd neu Ysgrif | Gruffydd Gwynn, Dolgellau | |
Brawddeg ar y Gair – Brynglas | Megan Richards, Aberaeron | |
Cerdd rydd neu gaeth heb fod dros 30 llinell – Copa | Rhys Gwynn, Dolgellau | |
Cyfansoddi Emyn – Emyn ar gyfer angladd | John Meurig Edwards, Aberhonddu | Adrian Walters, Stratford-upon-Avon |
Gorffen Limrig – ‘Wrth rodio ar hyd stryd fawr Crwbin’ | John Meurig Edwards, Aberhonddu | |
Llunio pedair dihareb newydd | T Williams, Abergwaun | |
Englyn digri neu ddwys ar y testun ‘Yn y Nos’ | J Beynon Phillips, Caerfyrddin |