Christine James
Y Dirprwy Archdderwydd, Christine James, sydd wedi’i phenodi i ddilyn Penri Tanat yn Gofiadur nesaf Gorsedd yr Orsedd.
Hi oedd y ferch gyntaf i’w hethol yn Archdderwydd, a hi hefyd fydd y Cofiadur benywaidd cyntaf yn hanes y sefydliad.
Fe gafodd ei magu yn Nhonypandy yng Nghwm Rhondda ar aelwyd Saesneg, gan ddysgu Cymraeg tra’n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth. Hi yw’r dysgwr cyntaf i fod yn Archdderwydd.
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau 2005 am gasgliad o gerddi, Lluniau Lliw.
Cafodd ei derbyn i’r Orsedd yn 2002 ac mae’n aelod o Fwrdd yr Orsedd ers 2010.
Y Cofiadur yw Ysgrifennydd Gorsedd y Beirdd sy’n arolygu gweithgareddau a seremonïau’r Orsedd.
Dyma fydd Eisteddfod olaf Penri Tanat fel y Cofiadur, wedi saith mlynedd a hanner yn y swydd. Bydd Christine James yn ei olynu yn syth wedi’r Brifwyl ym Môn.