Emma Chappell
Dynes sy’n wreiddiol o Gaergrawnt yw enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn 2017.

Erbyn hyn, mae Emma Chappell yn byw ym mhentref Deiniolen yng Ngwynedd ac fe gafodd ei magu yn Royston, Hertfordshire.

Dysgodd Gymraeg ar ôl cwrdd â’i phartner yn 2004 gan fynd ati i ddysgu’r iaith wedi hynny.

Esboniodd iddi fynd i ddosbarthiadau nos yn Warrington lle’r oedd yn byw ar y pryd cyn ymuno â chriw Cymraeg i Oedolion ar ôl symud i Gymru.

Dysgu’r iaith

Mae Emma Chappell yn cydnabod fod ei theulu wedi’i chynorthwyo i ddysgu’r iaith lle mae’n byw gyda’i phartner Arwel, a’u meibion Deion a Guto.

Dywed hefyd ei bod yn defnyddio’r Gymraeg bob dydd wrth ei gwaith ym Mhrifysgol Bangor a’i bod am “ddatblygu” ei Chymraeg ymhellach.

“Dw i’n gwybod fel mae’r plant yn tyfu y bydd yna fwy o sefyllfaoedd pan mae’n bwysig i ddeall beth sy’n mynd ymlaen,” meddai.

Gwobrau

Y beirniaid eleni oedd Jenny Pye, R Alun Charles a Nia Roberts ac fe gafodd ei hanrhydeddu yng Ngwesty Tre Ysgawen Llangefni.

Mae’n ennill tlws yn rhoddedig gan Rhian a Harri Pritchard, Cemaes, a £300 ynghyd â chael ei derbyn i’r Orsedd y flwyddyn nesaf.

Y tri arall yn y rownd derfynol oedd Hugh Brightwell o Ellesmere Port, Sir Gaer, Richard Furniss o Langefni, Môn a Daniela Schlick o Borthaethwy, Ynys Môn, a derbyniodd y tri dlysau ynghyd â £100 yr un.

Mae’r pedwar yn ennill tanysgrifiad blwyddyn i gylchgrawn Golwg, a rhoddion gan fudiad Merched y Wawr.