Alun Davies
Mae Gweinidog y Gymraeg wedi amddiffyn ei benderfyniad i ddiddymu rôl y Comisiynydd Iaith, drwy ddweud bod ei Bapur Gwyn ar ddeddf iaith newydd yn “cryfhau swyddogaethau” y swydd.
Neges Alun Davies ar faes y Brifwyl heddiw (dydd Mercher) oedd bod angen bod yn “bositif” ynghylch y Gymraeg ac na ddylai rheoleiddio “dominyddu pob dim”.
Mae ef am greu corff newydd, tebyg i Fwrdd yr Iaith, a fyddai’n gyfrifol am hwyluso a rheoleiddio’r Gymraeg ac mae wedi dweud y bydd yn ymrwymo i Safonau’r Gymraeg ac yn eu cryfhau.
Mae’r papur wedi cael ei feirniadu’n hallt gan Gymdeithas yr Iaith, sy’n dweud y byddai’r ddeddf yn “gam yn ôl”.