Hedd Bleddyn
Mae un o feirdd Sir Drefaldwyn wedi codi’r cwestiwn, ai fo sydd wedi bod yn y nifer mwyaf o eisteddfodau cenedlaethol erioed?
Wrth baratoi at ddathlu ei ben-blwydd yn 79 oed ar Dachwedd 11 eleni, mae Hedd Bleddyn yn dweud iddo fod ym mhob prifwyl oni bai am un oddi ar 1939.
“Yr unig un dw i wedi ei fethu erioed ydi Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1982,” meddai’r bardd a’r saer maen o Lanbrynmair wrth golwg360 ar faes prifwyl Ynys Mon.
“Y flwyddyn honno oedd y flwyddyn yn dilyn eisteddfod Machynlleth 1981, ac ro’n i wedi cael cymaint o lond bol ar y codi arian, mi aethon ni i Sbaen ar wyliau yn wythdeg dau!
“Ond fel arall, dw i wedi bod ym mhob un ers 1939. A rhyw feddwl o’n i, ydi hynny’n rhyw fath o record? Mi liciwn i gael gwybod.”
Mae hynny’n golygu i Hedd Bleddyn dreulio o leiaf un diwrnod yn 1939 (Dinbych); fod yn y naw prifwyl gynhaliwyd yn y 1940au (eisteddfod radio oedd un Bangor yn 1944 oherwydd yr Ail Ryfel Byd); deg o wyliau’r 1950au, y 1960au, y 1970au, 1980au a’r 1990au; a’r deunaw prifwyl rhwng 2000 a 2017.
Mae hynny’n rhoi cyfanswm o 78 o eisteddfodau cenedlaethol.
Fe fydd Hedd Bleddyn yn aelod o dîm Maldwyn yn yr Ymryson yn y Babell Lên eleni.