Elfed Roberts
Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn dweud nad oes ganddo unrhyw gynlluniau i ymddeol cyn prifwyl “ddi-faes” Caerdydd ymhen dwy flynedd.

Fe ddaeth y cadarnhad gan Elfed Roberts, 67, ar ddiwedd cyfarfod Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth fore Sadwrn.

Cyhoeddwyd yn y cyfarfod bod Pwyllgor Gwaith prifwyl y brifddinas yn 2018 wedi cyfarfod am y tro cynta’ nos Fawrth ddiwetha’, Tachwedd 22, a bod “nifer fawr o bobol ifanc” ynghlwm a chynnal yr wyl heb faes ffurfiol na ffens i’w hamgylchynu.

Er nad oedd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 yn bresennol yng nghwrdd y Cyngor yn Aberystwyth – mae ar gwrs arweinyddiaeth yn Tiwnisia tan ddydd Sul – fe gafwyd adroddiad ysgrifenedig gan Ashok Ahir yn dweud fod y targed ariannol i’r brifddinas yn £320,000 – rhywbeth yn debyg i’r targed pan ymwelodd y brifwyl a’r brifddinas yn 2008.

“Oes yna bobol yn dweud fy mod i’n meddwl mynd cyn EIsteddfod Caerdydd, oes?” meddai Elfed Roberts wrth golwg360. “Dydw i ddim wedi dweud dim byd, naddo?

“Ond does gen i ddim bwriad… mi fydda’ i yno.”

Mônn wedi chwalu’r targed

Un rheswm posib tros fynd fyddai’r ffaith bod codwyr arian Mon eisoes wedi pasio’u targed o £300,000 – ac maen nhw’n dal wrthi.

Yn adroddiad Derec Llwyd Morgan, fe ddywedodd y Cadeirydd Pwyllgor Gwaith mai’r “adnewyddiad cymdeithasol” y mae’r gweithgareddau codi arian wedi ei achosi fydd gwaddol pwysicaf y brifwyl ar Awst 13, 2017, ar ddiwedd yr eisteddfod ei hun.