Margaret Garel a Matilda Gregory, Gwirfoddolwyr Oxfam Llun: Oxfam
Mae siop elusen yn galw am lyfrau Cymraeg a cherddoriaeth Gymraeg yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol i “adlewyrchu’r ffaith bod y Gymraeg yn iaith fyw.”

Yn ôl Siop Oxfam ar Stryd y Castell, Abertawe, mae galw yn y siop am lyfrau Cymraeg, yn enwedig llyfrau Cymraeg i blant a phobol ifanc a ffuglen gyfoes i oedolion.

A hithau’n wythnos y Brifwyl, mae gofyn i Gymry dwrio eu silffoedd llyfrau a silffoedd cryno-ddisgiau neu finyl i’w rhoi i Oxfam i wneud lle am weithiau llenyddol a cherddorol newydd yr Eisteddfod.

“Rydym angen llyfrau Cymraeg, ac yn benodol llyfrau Cymraeg i blant. Does gennym ni byth ddigon o lyfrau lluniau i blant bach na ffuglen ar gyfer pobl ifanc,” meddai Phil Broadhurst, rheolwr y siop Oxfam yn Abertawe.

Angen llên ‘cyfoes’

Ychwanegodd fod “nifer fawr” o siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yn dod i’r siop yn edrych am lyfrau Cymraeg, a’i fod felly’n awyddus i gael rhagor o ffuglen gyfoes i oedolion, a gweithiau ffeithiol hefyd.

“Mae gan y rhan fwyaf o siopau elusen nifer fawr o hen lyfrau Cymraeg am bregethwyr, ond rydym ni am i’n hadran llyfrau Cymraeg adlewyrchu’r ffaith bod y Gymraeg yn iaith fyw sy’n ffynnu, felly rydym yn awyddus i gael llenyddiaeth Gymraeg diweddar ar ein silffoedd.”

Gwneud arian o finyl Cymraeg

Yn ôl y rheolwr, mae’r siop wedi gwneud tipyn o arian dros y blynyddoedd hefyd wrth werthu “finyl cwlt Cymraeg”.

“Gall recordiau gan artistiaid megis Meic Stevens ac Edward H Dafis godi llawer o arian i helpu gwaith Oxfam i gefnogi pobl anghenus yng Nghymru a ledled y byd,” ychwanegodd.

Apêl at Gymry’r Eisteddfod

Dywedodd Casia Wiliam, Swyddog y Wasg a Chyfathrebu Oxfam Cymru, sydd hefyd wedi cyhoeddi llyfrau yn y Gymraeg, ei bod yn “wych” gweld siopau Oxfam yn galw am lenyddiaeth gyfoes, Gymraeg.

“Rwy’n siŵr bod gan nifer fawr o Gymry Cymraeg resi a rhesi o lyfrau Cymraeg ar eu silffoedd llyfrau adref yn hel llwch,” meddai.

“Mi wn i ei bod hi’n anodd ffarwelio â nhw weithiau, ond oni fyddai’n braf cerdded mewn i siop Oxfam a gweld llwyth o lyfrau Cymraeg diweddar?

“Mi fydda’i bendant yn mynd ati i dyrchu ac yn mynd a thipyn o lyfrau draw i fy siop Oxfam leol er mwyn gwneud lle ar y silff i’r holl weithiau gwych sydd wedi dod i’r brig yn yr Eisteddfod eleni.”

Mae siop Oxfam ar Stryd y Castell ar agor saith diwrnod yr wythnos, rhwng 9:30 a 5 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a rhwng 11 a 4 ar ddydd Sul.