Daeth dros 12,000 o ymwelwyr i faes Eisteddfod yr Urdd yn Sir y Fflint ar ddiwrnod olaf ond un yr ŵyl.
12,278 oedd y ffigwr union ddydd Gwener yr Eisteddfod, sydd dros 1,000 yn well na’r nifer y llynedd yng Nghaerffili ac yn 2014 ym Meirionnydd.
Hyd yn hyn, mae 80,000 wedi heidio i’r maes yn y Fflint, gyda’r tywydd braf wedi parhau drwy gydol yr ŵyl.
Fory yw diwrnod olaf yr ŵyl, ac mae’r Urdd yn gobeithio denu 10,000 i’r maes eto er mwyn cyrraedd ei tharged o 90,000.
Uchafbwyntiau’r diwrnod
Cafwyd teilyngdod am y Goron, gydag Iestyn Tyne o Ben Llŷn, sy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ei chipio.
Neges Llywydd y Dydd yr Eisteddfod heddiw, Rhodri Meilyr, oedd nad oes digon o sylw yn cael ei roi i Gymry Cymraeg y Fflint – neges debyg i un Caryl Parry Jones, Llywydd dydd Llun.
Fe lansiodd Comisiynydd y Gymraeg a Chomisiynydd Plant Cymru eu hymgyrch ar y cyd i gryfhau hawliau iaith plant Cymru ar y maes heddiw hefyd.
Nos fory, fydd gig yn cael ei gynnal am y tro cyntaf ar faes Eisteddfod yr Urdd, gyda Candelas, Y Bandana a Mellt yn chwarae.
Blwyddyn nesaf, mae Eisteddfod yr Urdd yn mynd i ardal Pen-y-bont ar Ogwr, lle fydd “croeso cynnes” yno, yn ôl y trefnwyr.