Mae un o wyliau ieuenctid mwyaf Cymru wedi lansio ei chystadleuaeth newydd i greu cynllun crys-T.

Ar y cyd â Diwrnod Miwsig Cymru, dydd Gwener, mae Maes B am i bobol cyflwyno eu cynlluniau crys-T newydd ar gyfer yr ŵyl.

Bydd yr enillydd yn cael tocyn i Faes B 2016 yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy, gyda’r cynllun newydd yn ymddangos ar grysau-t yr ŵyl eleni.

I gyd fynd â’r gystadleuaeth, mae trefnwyr Maes B hefyd yn annog pawb i wisgo crysau-T bandiau neu gigs Cymraeg ar #DyddMiwsigCymru i dynnu sylw a chefnogi’r dydd.

Gall bobol wisgo crys-t eu hoff fand neu gig ar y diwrnod, a thynnu llun a’i drydar gan ddefnyddio’r hashnod #crystmaesb.

Manylion y gystadleuaeth

Dyddiad cau y gystadleuaeth yw 8 Ebrill a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 22 Ebrill.

I wneud cais, e-bostiwch ffeil res uchel o’ch cynllun at cadi@eisteddfod.org.uk. Rhaid i’r ardal argraffu ddim fod yn fwy na 30cm x 40cm.

Mae Maes B am weld ei enw ar y cynllun ond does dim angen cynnwys y flwyddyn (2016).