Ddoe oedd y dydd Llun prysuraf ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ers chwe blynedd, wrth i 17,683 o ymwelwyr heidio i’r maes ger Meifod.
Mae disgwyl i’r niferoedd gynyddu wrth i’r wythnos fynd yn ei blaen, gyda 51,720 o bobol eisoes wedi ymweld â maes yr Eisteddfod eleni o’i gymharu â 48,824 yr un adeg y llynedd yn Sir Gâr, a 50,657 yn Ninbych yn 2013.
Ddoe oedd y dydd Llun prysuraf ers Eisteddfod Meirionydd yn 2009 pan aeth 19,658 i’r maes.
Ond mae niferoedd yr ymwelwyr dyddiol yn cynnwys deiliaid tocynnau wythnos nad ydyn nhw o reidrwydd wedi ymweld â’r maes bob dydd.
Niferoedd dyddiol Eisteddfod 2015
Nos Wener: 2,605
Dydd Sadwrn: 15,023
Dydd Sul: 16,409
Dydd Llun: 17,683
155,390 oedd cyfanswm yr ymwelwyr ar ddiwedd yr wythnos y tro diwethaf y bu’r Eisteddfod yn yr ardal hon yn 2003.