Bydd Medal Goffa Syr T H Parry-Williams Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau 2015 yn cael ei chyflwyno heddiw i Jennifer Maloney o Landybie, Sir Gâr.

Mae’r fedal yn cael ei chyflwyno bob blwyddyn i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.

Yr enillydd eleni yw Jennifer Maloney am ei “gwaith diflino a gofalus” yn hybu’r iaith Gymraeg yn yr ardal, a hyn oll yn wirfoddol am sawl blwyddyn.

Hyfforddi cenedlaethau o Ieuenctid

Bu Jennifer Maloney yn hyfforddi cenedlaethau o bobl ifanc i gystadlu mewn amryw gystadlaethau dros Gymru, a hynny “er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan yn y gweithgareddau”.

Sefydlodd Jennifer Maloney Aelwyd Penrhyd yn 1976 ac mae bellach dros 70 o blant lleol o 4 oed hyd at 19 oed yn mynychu’r gweithgareddau yn rheolaidd.

Bu Syr T H Parry-Williams yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod Genedlaethol ac yn Awst 1975, yn dilyn ei farwolaeth ychydig fisoedd ynghynt, sefydlwyd cronfa i goffáu’i gyfraniad gwerthfawr i weithgareddau’r Eisteddfod.

Enillwyr Blaenorol

2014: Alun Jones, Chwilog

2013: Dorothy Jones, Llangwm

2012: Eirlys Britton, Caerdydd

2011: Sydney Davies, Glyn Ceiriog