Aled Sion, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd
Hanner ffordd trwy’r wythnos eisteddfodol yng Nghaerffili, mae’r Urdd – am y tro cyntaf erioed – wedi cyhoeddi tabl fedalau, sy’n mesur llwyddiant gwahanol ardaloedd.

Ceredigion sydd ar y blaen, ac yn dynn ar ei sodlau mae Eryri.

Ond fel dywedodd Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd Aled Sion wrth golwg360, “fe allai hynny newid mewn dim”.

Fe ddaeth 20,156 o ymwelwyr i’r Maes ddoe – sy’n cymharu â 20,203 ar y dydd Mawrth y llynedd a 19,384 yn 2013.

Dyma’r tabl fel mae hi’n edrych y bore ‘ma: