Disgyblion Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
Mae Neges Heddwch yr Urdd, sy’n yn cael ei chyflwyno gan ddisgyblion Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, ar gael mewn 29 iaith eleni – sy’n fwy o ieithoedd nag erioed o’r blaen.

‘Mordaith y Mimosa’ yw themâu’r neges ac fe fydd yn cael ei chyflwyno gan bobol ifanc o flynyddoedd 7-10, gyda chefnogaeth Bardd Plant Cymru Aneirin Karadog, Morgan Roberts, Swyddog Ieuenctid yr Urdd Caerffili a Bethan Jones, Swyddog Prosiect Llais Menter Iaith Caerffili.

Y llynedd, roedd y neges ar gael mewn 22 o ieithoedd ond eleni, mae hi hefyd ar gael mewn Arabeg, iaith Groeg, Almaeneg, Swahili a Chatalaneg.

Y fordaith

Mae’r neges yn disgrifio teimladau a gobeithion y Cymry ar fwrdd y Mimosa wrth iddynt adael “hen fyd blinedig” a theithio tua’r gorwel gan ddychmygu “Cymru newydd yn ein pennau, i’w hadeiladu’n well yfory.”

Bydd yn cael ei pherfformio ar lwyfan y Pafiliwn am 2:00 heddiw.

“Mae’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn un o draddodiadau pwysica’r Urdd, sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc Cymru estyn dwylo i bobl ifanc ym mhedwar ban byd gyda neges yn llawn gobaith a chyfeillgarwch,” meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd.

“Mae thema’r neges eleni, ymfudo, ac yn benodol yr ymfudo i Batagonia, yn un oesol ac amserol, gyda chymaint o bobl ledled y byd yn fodlon wynebu peryglon lu wrth geisio bywyd gwell.”