Carwyn Jones
Does dim argyfwng o fewn y Blaid Lafur yng Nghymru ond mae sawl her yn eu hwynebu yn y blynyddoedd nesaf – dyna eiriau Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones heddiw.

Wrth siarad â golwg360 ar faes Eisteddfod yr Urdd ar ôl canlyniad gwaeth na’r disgwyl yn yr etholiad cyffredinol, dywedodd Carwyn Jones mai edrych i’r dyfodol sy’n bwysig.

“Mae’n rhaid i ni gofio mai ni ydi’r blaid fwyaf yng Nghymru gyda mwy o seddi nag unrhyw un arall,” meddai.

“Wrth gofio ein safonau ni, wnaethom ni ddim mor dda ag yr oeddem ni’n erfyn.

“Ond mae’r bobol gennym ni ar y ddaear a beth sy’n bwysig yw bod y neges iawn gyda ni, o ystyried y byddem ni wedi bod mewn llywodraeth am 17 mlynedd.

“Does dim argyfwng, mae yna heriau.”

Dim ffydd yn Ed

Wrth fanylu ar yr heriau, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd pobol yn ymddiried yn llawn yn y cyn-arweinydd Ed Miliband yn ystod cyfnod ymgyrchu’r blaid Brydeinig:

“Y peth cyntaf yw bod gan bobol ffydd yn eich arweinydd, doedd hynny ddim cweit yna gyda Ed (Miliband) os dw i’n hollol onest.

“Yn ail, mae angen i’r neges fod yn ddigon eang i apelio at ran fwyaf y bobol mewn cymdeithas.

“Os nad ydi pobol yn credu’r polisïau economaidd, bydden nhw ddim yn credu unrhyw beth arall. Dyna’r her gyntaf. Mae pobol eisiau gweld gwleidyddion sy’n siarad fel pobol normal, sydd ddim yn siarad fel robot a bod ganddyn  nhw gysylltiad gyda phobol gyffredin.”