Enillydd Medal y Dysgwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili a’r Cylch 2015, Alice Howell
Enillydd Medal y Dysgwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili a’r Cylch 2015 yw’r ferch 18 oed  Alice Howell o Ysgol Uwchradd Caerdydd.

O dan y ffug enw Ledi Mary, fe gyfansoddodd “waith oedd yn dangos gafael dda iawn ar yr iaith”, yn ôl y beirniad.

Mae Alice Howell yn ddisgybl chweched dosbarth lle mae’n astudio Cerdd, Mathemateg a’r Gymraeg ar gyfer Lefel A a hi yw’r unig un sy’n siarad Cymraeg yn ei theulu.

Beirniaid y fedal eleni yw’r athrawes ac ymgynghorydd y Gymraeg Mererid Morgan a’r athrawes ail iaith Sian Davies.

Wrth draddodi’r feirniadaeth o’r llwyfan, dywedodd Mererid Morgan: “Roedd y gwaith o safon, a’r cynnwys yn ddiddorol ac yn dangos gafael dda iawn ar yr iaith.

“Ar lafar, roedd Ledi Mary yn rhugl ac yn dangos aeddfedrwydd ynglŷn â’r iaith a’i dyheadau ar gyfer y dyfodol.

“Mae hi’n llawn haeddu’r fedal eleni.”

Cafodd y fedal ei chyflwyno gan y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Ymgeiswyr

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Hollie Kalter o Ysgol Gyfun Caerllion, Gwent a’r trydydd oedd Hannah Cook o Ysgol Uwchradd Dyffryn Ogwen, Eryri.

Ar y cyfan, roedd 11 ymgeisydd ac roedd canmoliaeth i bob un.

Eleni, fe roedd bron pob aelod o’r seremoni – oni bai am y Prif Weinidog Carwyn Jones a Mererid Morgan – yn ddysgwyr.