Alun Jones
Mae’r athro a’r awdur Alun Jones wedi derbyn Medal Goffa Syr T H Parry-Williams ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr heddiw.
Cyflwynir y fedal bob blwyddyn i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.
Mae Alun Jones, sy’n wreiddiol o Sir Gâr, ond sydd bellach wedi ymgartrefu yn Chwilog, wedi chwarae rhan bwysig mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru dros y blynyddoedd.
Yn fab fferm o ardal Llanpumsaint, Sir Gâr, graddiodd Alun Jones yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe cyn hyfforddi fel athro. Dechreuodd ei yrfa yn Ysgol Bargoed, lle bu’n weithgar iawn yn creu cyfleoedd i gyflwyno’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth, gan hyfforddi’r bechgyn yn yr ysgol a’r gymuned i chwarae rygbi.
Bu’n Bennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Pontypridd, lle bu’n gweithio gyda’i gyd-bennaeth, Aneirin Jones, i greu gwers-lyfrau i gyflwyno’r Gymraeg fel ail iaith yn y sector uwchradd.
Bu hefyd yn weithgar yn y gymuned leol, yn rhedeg dosbarthiadau nos ar gyfer pobl ifanc a rhieni ifanc a oedd yn awyddus i ddysgu’r iaith.
Symudodd ef a’r teulu o Bontypridd i Flaenau Ffestiniog ar ddechrau’r 70au, pan gafodd ei benodi yn Bennaeth y Gymraeg, Ysgol y Moelwyn. Fe ffurfiodd partïon llefaru, grwpiau cyflwyniadau llafar, timoedd ac unigolion ar gyfer cystadlaethau siarad cyhoeddus a chyflwyniadau theatrig, gyda llawer o’r criw ifanc yn mynd ati i gystadlu am y tro cyntaf.
Daeth Alun Jones yn Bennaeth y Gymraeg yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth, yn 1974, a dyma lle yr arhosodd y teulu am flynyddoedd.
Yn ystod y cyfnod hwn bu hefyd yn weithgar yn ei gymuned yn Rhydypennau, gan sefydlu Parti Nant Afallen, a fu’n fuddugol sawl tro yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn yr Wyl Gerdd Dant, yn ogystal â chefnogi eisteddfodau llai.
Ar ôl ymddeol o Ysgol Penweddig, bu’n darlithio yn Adran Addysg y Brifysgol a bu’n Brif Arholwr CBAC Cymraeg Lefel A.
Ers iddo ymddeol o’r brifysgol, mae wedi gweithio fel golygydd i wasg Y Lolfa.
Bu Syr T.H.Parry-Williams yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Awst 1975, yn dilyn ei farwolaeth ychydig fisoedd ynghynt, sefydlwyd cronfa i goffáu’i gyfraniad gwerthfawr i weithgareddau’r Eisteddfod.