Ian Jones
Drwy gydol yr wythnos mae’r perfformio wedi bod yn ddiddiwedd nid yn unig ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd, ond yn y rhagbrofion a’r ystafelloedd ymarfer hefyd.
Wrth gwrs, ni fyddai’r cystadlu i nifer o gantorion, corau, offerynwyr a pherfformwyr wedi bod yn bosib oni bai am yr athrawon a chyfeilwyr sydd wedi rhoi oriau o’u hamser i’w helpu i baratoi.
Ac mae arnyn nhw lawer o ddiolch i un criw o bobl benodol am gadw pethau’n llifo iddyn nhw – y rheiny fu’n tiwnio eu pianos drwy’r wythnos, fel Ian Jones.
Mae Ian Jones o Pianos Cymru yn un o’r criw sydd wedi bod wrthi ers 6.00 y bore bob dydd yn gweithio er mwyn sicrhau nad oes nodau cam yn y cyfeilio.
Bu golwg360 yn sgwrsio ag ef er mwyn cael blas ar beth yw gwaith tiwnydd piano yn ystod yr ŵyl: