Mae diwrnod arall o gystadlu ar ben yn Eisteddfod yr Urdd y Bala 2014, gyda Heledd Gwyn Lewis yn cipio’r Fedal Ddrama ym mhrif seremoni’r ŵyl heddiw.

Ac yn ymuno ag Owain Schiavone am sgwrs ddyddiol podlediad eisteddfodol golwg360 heddiw mae Steffan Prys Roberts, Trefnydd Cynorthwyol yr Eisteddfod, ac Emyr Young, ffotograffydd swyddogol Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon.

Mae’r tri yn trafod rhai o’r cystadleuthau fu’n dal eu llygaid, gan gynnwys cystadleuaeth bandiau ifanc a’r sioe ieuenctid.

Ymysg y pynciau trafod eraill mae ardal yr Eisteddfod ym Meirionydd eleni, gyda’r gwesteion yn rhoi eu barn nhw ar y syniad o gael safle parhaol i Eisteddfod yr Urdd.

Maen nhw hefyd yn dewis eu huchafbwyntiau personol nhw o’r wythnos hyd yn hyn – a pha un ohonynt oedd yn cofio cael cam ar y llwyfan s’lawer dydd tybed?