Luned Jones o Oxfam Cymru
Oxfam Cymru sydd wedi ennill tlws stondin orau’r maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych eleni.

Dywedodd Luned Jones, swyddog cyfathrebu Oxfam Cymru, wrth Golwg 360: “Mae’n braf iawn ennill.”

“Mae’r stondin wedi canolbwyntio ar un ymgyrch sydd gennym ni ar hyn o bryd sef ymgyrch Caru Syria ac rydyn ni’n gwahodd pobl i ddod i’r stondin i arwyddo deiseb y bydden ni’n ei gyflwyno i’r Ysgrifennydd Tramor, William Hague, i ddod a’r rhyfel yno i ben.

“Rydyn ni hefyd yn dangos pethe fydden ni’n ei hanfon i argyfwng fel pecynnau glendid a thanciau dŵr -sef ein harbenigedd ni mewn argyfwng fel yr un yn Syria.

“Ond mae’n debyg bod y beirniaid cudd hefyd wedi nodi eu bod nhw’n hoff o’r pethau sydd gennym ni ar gyfer plant a’r ffaith ein bod ni’n dod  allan i siarad a denu diddordeb pobl ac ry’n ni’n hapus iawn i dderbyn cydnabyddiaeth am hynny.”