Geraint Edwards, trefnydd Y Stomp
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi symud lleoliad y Stomp ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol nos Wener oherwydd bod pryderon am y sŵn yn cario o berfformiad Edward H Dafis ar y llwyfan perfformio.
Dywedodd trefnydd y Stomp, Geraint Edwards, wrth Golwg 360 y byddan nhw’n symud y digwyddiad o’r Babell Lên i’r Pagoda ond ychwanegodd bod yr Eisteddfod wedi bod yn “dda iawn yn ein helpu ni i newid lleoliad.”
Mae’r newid lleoliad yn golygu y bydd llai o docynnau ar gael ond dyw hynny ddim yn poeni llawer ar y trefnydd.
“Gan fod llai o le, mi fyddwn ni’n mynd nôl i wreiddiau’r Stomp,” meddai Geraint Edwards.
“Ac mi fydd ‘na awyrgylch mwy cartrefol ac agos atat ti yno.”
Perfformwyr
Mae Llenyddiaeth Cymru hefyd wedi datgan enwau’r perfformwyr fydd yn cymryd rhan yn y Stomp wrth Golwg360.
Y beirdd fydd yn cystadlu am stôl y Stomp eleni fydd: Gruffydd Antur, Eurig Salisbury, Dewi Prysor, Gwennan Evans, Gruffudd Eifion, Ifan Prys, Emlyn Gomer, Al Tŷ Coch, Llŷr Gwyn Lewis, Hywel Griffiths, Les Barker a Gwilym Dwyfor. Y Stompfeistr fydd Arwel ‘Pod’ Roberts.