Roedd 17,813 o bobl wedi ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Ddinbych heddiw.

Roedd y tywydd braf wedi denu rhagor o ymwelwyr o’i gymharu â’r 15,754 a ddaeth ddoe yn dilyn glaw trwm.

Mae’r nifer a ddaeth drwy’r giatiau heddiw yn gynnydd ers y dydd Mawrth y llynedd pan ddaeth 13,126 i Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.