Mae’n rhaid i’r iaith Gymraeg fod yn rhan ganolog o’r Bil Cynllunio arfaethedig, yn ôl y cyfreithiwr Emyr Lewis a fydd yn annerch yn yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw.

Mewn cyfarfod sydd wedi cael ei drefnu gan fudiad Dyfodol i’r Iaith dywed Emyr Lewis bod rhaid cael sylfaen gref i ddiogelu’r iaith Gymraeg ar wyneb y Bil Cynllunio, sy’n debygol o gael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn y sesiwn seneddol nesaf.

Meddai Emyr Lewis, sydd yn un o gyfarwyddwyr Dyfodol: “Os ydym yn derbyn bod datblygu yn gallu cael effaith, da neu ddrwg, ar yr iaith, yna mae angen sylfaen llawer cryfach na TAN 20 newydd os ydym ni o ddifrif.  Canllaw yn unig ydi o, ac mae’n ganllaw go amwys.”

“Diben cyfraith cynllunio yw rheoli datblygu tir gan bwyso ystyriaethau ehangach yn erbyn rhyddid y farchnad. Mae angen i les y Gymraeg fod yn un o’r ystyriaethau hynny ac mae’n rhaid rhoi’r pwysau priodol i ddiogelu lles y Gymraeg mewn materion cynllunio,” meddai Emyr Lewis.

Mae mudiad Dyfodol yn galw am rym statudol i’r TAN 20 newydd o dan y Ddeddf Cynllunio. Mae hefyd yn dweud bod angen i’r Nodyn Cyngor Technegol gynnwys canllaw a methodoleg safonol er mwyn i awdurdodau lleol fedru mesur effaith unrhyw ddatblygiad posibl ar yr iaith Gymraeg.

‘Adeiladol’

Ddoe, bu swyddogion y mudiad yn cwrdd a’r Prif Weinidog ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu Carwyn Jones yn sgwrsio gyda Llywydd y mudiad, Bethan Jones Parry, y Cadeirydd, Heini Gruffudd a’r Ysgrifennydd, Simon Brooks.

“Roedd y sgwrs gyda Carwyn Jones yn un adeiladol dros ben ac fel mudiad rydym yn edrych ymlaen i gael cyfarfod pellach gyda’r Prif Weinidog yn yr hydref i drafod blaenoriaethau o ran hyrwyddo a chynnal y Gymraeg yn ein cymunedau,” meddai Bethan Jones Parry.

Fe fydd anerchiad Emyr Lewis yng nghyfarfod cyhoeddus Dyfodol i’r Iaith ym Mhabell y Cymdeithasau 1 am 4pm heddiw (dydd Mawrth).