Maes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Ddinbych
Os ydych chi’n ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych yr wythnos yma, rhannwch eich lluniau o’r brifwyl gyda Golwg360 ar Twitter er mwyn cael y cyfle i ennill gwobr arbennig.

Trwy gydol yr wythnos, mae Golwg360 yn gwahodd pobl i rannu eu lluniau gan ddefnyddio’r hashtag #steddlun.

Ddydd Sadwrn fe fydd y llun gorau’n cael ei ddewis gan y ffotograffydd proffesiynol, Emyr Young.

Bydd perchennog y  llun buddugol yn ennill clod a bri a thanysgrifiad o chwe mis i apGolwg, fersiwn digidol o gylchgrawn Golwg, sydd werth £37.