Bradley Manning
Mae drama am y milwr Americanaidd o gefndir Cymreig a roddodd gyfrinachau milwrol i Wikileaks wedi ennill gwobr lenyddol gwerth £10,000.

Mae The Radicalisation of Bradley Manning gan Tim Price, a fydd yn cael ei pherfformio gan National Theatre Wales yng Ngŵyl Caeredin o heddiw ymlaen, wedi cael ei henwi fel enillydd Gwobr Ddrama James Tait Black.

Mae’r ddrama’n olrhain bywyd Manning o gyfnod ei arddegau a dreuliodd yng Nghymru hyd at heddiw. Cafodd ei ddyfarnu’n euog am ysbïo yn yr Unol Daleithiau’r wythnos ddiwethaf.

Dyma’r tro cyntaf i gategori drama gael ei gynnwys yng ngwobrau James Tait Black, rhai o wobrau llenyddol hynaf Prydain.

Fe wnaeth dros 180 o ddramodwyr o bob rhan o’r byd gyflwyno’u gwaith i’r gystadleuaeth, a chafodd y ddrama am Manning ei chyhoeddi fel yr enillydd mewn seremoni yn y Traverse Theatre yng Nghaeredin.