Huw Stephens
Mae’r DJ Radio 1, Huw Stephens, wedi bod yn annog pobol ifanc rhwng 13 a 18 oed i gymryd rhan mewn prosiect digidol newydd.
Bwriad prosiect DymaFi.tv yw cael pobol ifanc i ffilmio 24 awr yn eu bywydau – a hynny ar un diwrnod penodol, sef Mehefin 22 eleni.
“Mae unrhyw beth sydd yn rhoi llais i bobl ifanc Cymru yn bwysig, ac mae’r syniad tu nol i DymaFi.tv yn un uchelgeisiol a chyffrous,” meddai Huw Stephens, sy’n llysgennad i’r prosiect.
“Mae’n bleser cael cefnogi’r digwyddiad hanesyddol a diddorol yma.”
Gormod o labelau negyddol
“Mae’n bryd i ni i roi diwedd ar y labeli negyddol y mae plant a phobl ifanc yng Nghymru yn wynebu bob dydd,” meddai Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, sy’n cefnogi’r prosiect.
“Bwriad ymgyrch Dyma Fi yw dinistrio’r stereoteipiau negyddol ac i hyrwyddo delweddau cadarnhaol o blant a phobl ifanc, i’w cynrychioli mewn modd cyfrifol a chytbwys yn yr holl waith a wnawn, ac i fod yn esiampl i wledydd eraill yn y DU ac ar draws y byd.
“Fy nod fel Comisiynydd Plant Cymru yw i alluogi Cymru i fod yn wlad lle mae plant a phobl ifanc yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi, a’u cefnogi i fyw bywydau diogel a hapus. Y ffordd orau o gyflawni hyn yw rhoi’r offer i bobl ifanc i allu cymryd rhan mewn cymdeithas.”
Un ffilm fawr
Bydd y ffilmiau mae’r bobl ifanc yn eu creu yn cael ei dangos ar wefan DymaFi.tv. ac mae yno hefyd glipiau ffilm sy’n rhoi cyngor ac awgrymiadau ar sut i fynd ati i greu ffilmiau fel hyn, a hynny heb fod angen offer drud na chymhleth.