Mae enillwyr Gwobrau Tir na n-Og wedi cael eu llongyfarch ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod yr Urdd yn Sir Benfro heddiw.
Mae dwy wobr yn cael eu cyflwyno i awduron llyfrau Cymraeg i blant bob blwyddyn – un ar gyfer llyfr i’r oed cynradd, a’r llall ar gyfe llyfr ar gyfer disgyblion oed uwchradd.
Y naturiaethwyr, Bethan Wyn Jones a Iolo Williams, yw enillwyr y wobr gynradd, am eu cyfrol, Cynefin yr Ardd.
Alun Wyn Bevan, y sylwebydd rygbi, ydi enillydd y wobr uwchradd, a hynny am ei lyfr, Y Gemau Olympaidd a Champau’r Cymry.