Brynhawn heddiw, mae Des Davies yn gobeithio y bydd bardd buddugol yn eistedd yn y gadair y mae wedi ei chreu ar gyfer Eisteddfod yr Urdd.

Mae’r dodrefnyn wedi’i greu allan o ddarn o bren derw a gafodd ei gwympo yn ardal Boncath dros 25 mlynedd yn ol. Ar hyd cefn y gadair, mae wyth panel yn rhedeg ar i lawr, ac ym mhob un ohonyn nhw mae darn o garreg las Sir Benfro.

“Oeddwn i eisie defnyddio deunyddie lleol er mwyn creu’r gadair,” meddai Des Davies, sydd hefyd yn un o Lywyddion Anrhydeddus yr eisteddfod eleni.

Er bod tad Des yn saer coed, doedd ef ei hun erioed wedi trin coed nes iddo ddechrau mynd i ddosbarthiadau nos. Dyma tro cyntaf iddo greu cadair eisteddfod.