Aneirin Karadog ydi Bardd Plant newydd Cymru, ar ol cael ei gyflwyno a’i gyfarch ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd yng Nghilwendeg, Sir Benfro, y prynhawn yma.
Mae’n dod yn wreiddiol o Bontypridd, ac mae’n wyneb cyfarwydd i wylwyr y rhaglen gylchgrawn Heno, ac yntau’n cyflwyno eitemau arni. Mae hefyd yn gyn-aelod o’r grwp hip-hop, Genod Droog.
Mae Aneirin yn briod efo Laura, ac yn dad i ferch flwydd oed o’r enw Sisial. Maen nhw’n byw ym Mhontyberem.
Mae’r Bardd Plant newydd yn rhugl mewn pump iaith – Cymraeg, Saesneg, Llydaweg, Ffrangeg a Sbaeneg. Hefyd, mae ei gyfrol gynta’ o gerddi, O Annwn i Geltia, ar restr fer Llyfr Barddoniaeth y Flwyddyn 2013.