Un o fandiau prysur Maes Eisteddfod yr Urdd eleni ydi Mattoidz.

Mae’r bechgyn lleol yn chwarae tri gig mewn 24 awr yn ystod yr wythnos hon i ddathlu lawnsiad eu trydydd halbwm ‘Tri’.

Mae bod yn ôl ar faes yr Eisteddfod yn Sir Benfro yn garreg filltir i’r bechgyn lleol, gan mai yn ôl yn 2002 ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhyddewi y ffurfiwyd y band.

Deng mlynedd yn ddiweddarach dyma nhw ar faes gwahanol ond yn yr un Sir, yn lawnsio eu trydydd halbwm; yn chwarae ar y llwyfan perfformio ddydd Gwener a dydd Sadwrn; ac yna’n lawnsio eu halbwm Nghlwb Rygbi Crymych nos Wener.