Mae un o wynebau cyfarwydd cor Only Men Aloud wedi croesawu’r ffordd y mae gwyddoniaeth a’r celfyddydau’n cael eu lle cyfartal ar Faes Eisteddfod yr Urdd.

Wrth agor pabell Gwyddonle heddiw, fe ddywedodd Wyn Davies, sydd wedi cymhwyso yn fferyllydd, fod y dyddiau heibio bellach pan oedd yn rhaid i ddisgyblion ddewis rhwng pynciau gwyddonol neu gelfyddydol yn yr ysgol.

“Yn rhy aml, roedd yn rhaid dewis,” meddai Wyn Davies, “ond does dim rhaid gwneud hynny heddiw. Mae’n iawn i bobol ifanc gael yr amrywiaeth.”