Mae Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd yn gwrthwynebu cynnal rhagbrofion ar Skype.
Mae’r actor, Mathew Rhys, yn methu bod yng Nghilwendeg heddiw oherwydd galwadau gwaith, ond roedd wedi cynnal sgwrs ar Skype gyda’r gantores, Connie Fisher, ar gyfer ei darlledu yn ystod cynhadledd i’r wasg heddiw.
“Mae’r un peth yn dechrau digwydd yn fy musnes i, gyda phobol eisie cynnal clyweliadau ar Skype,” meddai Mathew Rhys yn y sgwrs honno.
“Ond sa’ i’n lico fe – wrth berfformio o flaen cynulleidfa y mae actor neu unrhyw berfformiwr yn magu profiad, hyder a gallu i gyfathrebu a’i gynulleidfa.”