Fe fydd Gweinidog yr Iaith Gymraeg yn defnyddio ei ap newydd i ffeindio’i ffordd o gwmpas Maes Eisteddfod yr Urdd heddiw.

Yng nghynhadledd i’r wasg gynta’r wythnos, fe ganmolodd Leighton Andrews y mudiad ieuenctid am roi cyfleoedd i bobol ifanc ddefnyddio’r dechnoleg diweddara’ trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Ar ei ffon clyfar fore heddiw, roedd eisoes wedi lawrlwytho ei ap, sy’n cynnwys map, amserlen a gwybodaeth am gystadlaethau’r Urdd.

“Mae’n galonogol i weld cymaint o ddiddordeb yn yr Urdd, ymysg yr ifanc ac oedolion,” meddai, “ ac mae’n braf gweld pobol ifanc yn defnyddio’r Gymraeg yn hyderus.”