Fe fydd pedwar o lywyddion anrhydeddus yn cael eu hanrhydeddu ar lwyfan Pafiliwn yr Urdd cyn prif seremoni’r dydd brynhawn heddiw, sef:

Des a Helen Davies, Blaenffos

Margaret Rhys, Dinas

Ann Pash, cyn-athraws yn Ysgol y Preseli

Mae Des a Helen Davies wedi bod yn weithgar gydag Aelwyd Crymych ers y 1970au. Enillodd y ddau Wobr John a Ceridwen yn 2003 yn Eisteddfod yr Urdd Tawe, Nedd ac Afan, a Des oedd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Bro’r Preseli pan oedd hi ar dir Cilwendeg ddiwetha’ yn 1995.

Mae Margaret Rhys wedi bod yn ymwneud a’r Urdd ers dros 60 mlynedd gan gystadlu, cyfeilio a beirniadu. Cafodd bleser mawr hefyd yn cefnogi Aelwyd Crymych, gan gyfeilio i’r cor lleol ac are u teithiau i  Lydaw, Canada a Phatagonia.

Mae Ann Pash wedi bod yn ymwneud gyda’r Urdd ers dros 30 mlynedd, yn hyfforddi partion ac unigolion i lefaru yn Ysgol y Preseli ac Adran Castell Newydd Emlyn. Mae wedi cystadlu mewn eisteddfodau ers pan oedd yn fach, a hi oedd y ferch gynta’ a ieuenga’ i ennill Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn, a hithau’n 22 oed yn Eisteddfod Fflint 1969.