Mae disgwyl i 15,000 o blant a phobol ifanc gystadlu yn ystod Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon, wrth i brifwyl ieuenctid Cymru agor ar gaeau Cilwendeg, Sir Benfro.

A bydd pump o enillwyr heddiw yn cael gwahoddiad i berfformio mewn gwyl Gymreig yn Disneyland, Paris fis Mawrth nesa’, sef buddugwyr:

  • Unawd Blwyddyn 2 ac iau (dydd Llun)
  • Unawd Blwyddyn 3 a 4 (dydd Llun)
  • Alaw Werin Unigol Blwyddyn 6 ac iau (dydd Mawrth)
  • Dawns Werin Unigol i Fechgyn Blwyddyn 9 ac iau (dydd Iau)
  • Unawd Sioe Gerdd Blwyddyn 10 a dan 19 oed (dydd Iau)

 

Ffeithiau eraill

Mae 200 o stondinwyr ar y Maes eleni, yn ogystal a beiciau modur, dringo a sesiynau campau ffair.

Er mwyn tywys ymwelwyr o gwmpas y Maes, mae ap newydd wedi ei greu ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2013. Mae’r ap yn cynnwys map o’r Maes, amserlen gweithgareddau a chanlyniadau cystadlaethau.

Bydd cynnig arbennig ddydd Sadwrn, Mehefin 1, i bobol brynu tocynnau mynediad i’r Maes am hanner pris.