Gruffydd Wyn yw enillydd Cân i Gymru eleni, ar ôl i’w gân Cyn i’r Llenni Gau, sydd yn deyrnged i’w Nain, ddod i’r brig neithiwr (nos Sadwrn, Chwefror 29).
Mae’n derbyn gwobr ariannol o £5,000 a’r cyfle i gystadlu yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd yn Iwerddon fis Ebrill.
Pan Fyddai’n Wythdeg Oed gan Rhydian Meilir a Jacob Elwy oedd y gân a gipiodd yr ail a gwobr o £2,000 a Morfa Madryn gan Alistair James oedd yn drydydd â gwobr o £1,000.
Y beirniaid Bryn Fôn, Georgia Ruth, Ani Glass ac Owain Gruffudd oedd wedi dewis yr wyth cân yn y rownd derfynol.
Ond cafodd yr enillydd ei ddewis trwy bleidlais gyhoeddus ar ddiwedd noson fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
“Dw i wrth fy modd ’mod i wedi ennill, a methu coelio’r peth i ddweud y gwir!” meddai’r enillydd, a ddaeth i amlygrwydd drwy wledydd Prydain ar raglen ‘Britain’s Got Talent’ a chael y golden buzzer gan Amanda Holden.
“Diolch i bawb wnaeth bleidleisio.
“Roedd y gân yma i fy Nain a fu farw’n ddiweddar, a dwi wedi gweld bywyd yn anodd iawn ers ei cholli.
“Dwi’n gobeithio y bydda’i hi yn browd iawn ohona’ i heno.”
‘Llongyfarchiadau’
“Llongyfarchiadau i Gruffydd Wyn ac i bob un o’r perfformwyr a’r cyfansoddwyr sydd wedi cymryd rhan yng Nghân i Gymru eleni,” meddai Siôn Llwyd o Avanti Media, cynhyrchwyr y rhaglen.
“Mae wedi bod yn noson anhygoel.
“Mae safon yr artistiaid heno yn argoeli’n dda ar gyfer dyfodol Cân i Gymru a dyfodol cerddoriaeth Gymraeg.”