Fe fydd albwm gyntaf Ani Glass, sy’n trafod bywyd yng Nghaerdydd, yn cael ei chyhoeddi ar Fawrth 6.
Mae enw’r albwm, Mirores, sydd wedi’i chyhoeddi gan Recordiau Neb, yn tynnu ar ei henw barddol yng ngorsedd Cernyw.
Daw hyn ar ôl iddi ryddhau ei EP cyntaf, Ffrwydrad Tawel yn 2017, a phedair blynedd o ddatblygu ei sŵn a’i gweledigaeth artistig.
Mae Mirores wedi ei seilio o amgylch y syniad o symud a datblygu ac mae’n mynd â’r gwrandawyr ar daith o amgylch ei chynefin yng Nghaerdydd.
Ymunodd hi â Gorsedh Kernow, yr Orsedd Gernywaidd, yn 2013.
Mae’r Gorsedh yn ddathliad o ysbryd Celtaidd Cernyw a chaiff pobol sy’n cyfrannu i’w hetifeddiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol eu hurddo.
Mae’r caneuon yn adlewyrchu iaith a thirlun Caerdydd yn ogystal â chynrychioli ymateb i werthoedd cyfalafol a datblygiadau sy’n blaenoriaethu anghenion pobol gyfoethocaf y gymdeithas.
‘Llafurus’
“Cyn i mi ddechrau’r prosiect hwn, doedd gen i ddim llawer o brofiad o wneud cerddoriaeth electronig – roedd hyd yn oed yn dasg syml o gysylltu’r peiriannau yn llafurus i ddechrau,” meddai Ani Glass.
“O’r cychwyn cyntaf roedd rhyddid a democratiaeth cynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth electronig yn rymus – agorodd ddrws i fyd o bosibiliadau a galluogodd fi i ddatblygu fy sŵn fel artist unigol.”
Bydd hi’n mynd ar daith i hyrwyddo’r albwm:
Mawrth 6 – Clwb Ifor Bach, Caerdydd
Mawrth 7 – Pontio, Bangor
Mawrth 13 – Siop Spillers, Caerdydd
Mawrth 14 – Tŷ Pawb, Wrecsam
Mawrth 21 – Siop Tangled Parrot, Caerfyrddin