Am y tro cyntaf erioed bydd sioe gerdd Gymraeg yn gael ei dangos fel rhan o ŵyl arddangos arbennig ar gyfer sioeau cerdd (BEAM – Brunel Electronic + Analogue Music Festival).

Mae Y Tylwyth, cynhyrchiad agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy’r llynedd, ymysg tua 35 o eitemau sy’n rhan o’r ŵyl sy’n cael ei chynnal yn Northampton fis Mawrth.

Cafodd y stori, sydd wedi ei hysbrydoli gan chwedlau a straeon tylwyth teg, ei hysgrifennu gan Gwyneth Glyn, Twm Morys a Myrddin ap Dafydd, ac Osian Huw Williams oedd y cyfarwyddwr cerdd.

Disgrifiodd yr Eisteddfod Genedlaethol y cyfle fel un “euraidd” wrth iddyn nhw barhau i “ddatblygu cynyrchiadau uchelgeisiol a gwefreiddiol, er mwyn creu cyfleoedd ychwanegol i’r sioeau yn dilyn wythnos yr Eisteddfod ei hun.”

Cynrychioli Cymru a’r Gymraeg

Yn ol cyfarwyddwr y cynhyrchiad, Angharad Lee: “Mae cael ein cynnwys yn BEAM eleni yn fraint fawr ac rydan ni’n edrych ymlaen yn arw at y cyfle i fynd â chynhyrchiad mor arbennig at gynulleidfa newydd a dylanwadol iawn ym myd y sioeau cerdd.”

“Mae hefyd yn fraint enfawr mai Y Tylwyth yw’r cynhyrchiad Cymraeg cyntaf i’w ddewis, ac rydan ni’n falch iawn o’r cyfle i fynd yno i gynrychioli Cymru a’r Gymraeg mewn digwyddiad mor bwysig.”

Cynhyrchiad “hudolus a chwbl wreiddiol”

Dywedodd Elen Elis, Pennaeth Artistig yr Eisteddfod: “Roedd Y Tylwyth yn gynhyrchiad hudolus a chwbl wreiddiol, ac rydan ni’n llongyfarch pawb oedd ynghlwm â’r prosiect ar lwyddiant y sioe yn yr Eisteddfod ac am y cyfle yma sydd wedi codi ers hynny.

“Rydan ni’n edrych ymlaen at drafod gyda chynrychiolwyr amrywiol yng ngŵyl BEAM, gan obeithio y gwelwn ni ragor o gyfleoedd i sioeau Cymraeg eu hiaith yn y dyfodol.”