Mae tenor sy’n hanu o ardal Llanbedr Pont Steffan wedi creu argraff ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol mewn byr o dro wedi iddo gyrraedd y brig mewn dwy o’r prif gystadlaethau canu eleni.
Yn ystod wythnos y brifwyl yn Llanrwst, fe enillodd Aled Wyn Thomas gystadleuaeth yr Unawd Tenor 25 oed a throsodd, yn ogystal â’r gystadleuaeth Unawd Lieder 25 oed a throsodd.
Fe arweiniodd y llwyddiannau hyn wedyn at wahoddiad i gystadlu yng nghystadleuaeth y Rhuban Glas ar y dydd Sadwrn olaf.
Canu unigol a chorawl
Mae Aled Thomas hefyd yn aelod o sawl côr – dau yn y brifddinas – Cór Caerdydd a ‘C.Ô.R’ – ac un yn y gorllewin, sef Cywair.
“Mewn côr, mae’n waith tîm ac rydych chi’n newid cryfder y canu i wneud yn siŵr eich bod chi’n asio gyda’ch gilydd,” meddai, wrth ddisgrifio’r wahaniaeth rhwng canu mewn côr a chanu’n unigol.
“Mae hynny’n digwydd hefyd pan ydych chi’n dweud stori. Rydych chi’n cyfleu stori gyda’ch gilydd mewn côr. Efallai fod adrannau’n dehongli’r stori mewn ffyrdd gwahanol, yn dibynnu ar beth yw’r darn.
“Ond o ran canu’n unigol, mae’r cyfrifioldeb o gyfleu’r stori i gyda arnoch chi. Does dim unman i gwato.”
Dyma glip sain o Aled Thomas yn sôn ychydig mwy am ei yrfa canu, hyd yn hyn…
Llwyddiant cynnar
Er bod Aled Thomas wedi bod yn canu ers yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llanwnnen, gan droi ei fryd at ganu corawl wrth fynd yn hŷn, dim ond yn ddiweddar y mae e wedi mynd ati “o ddifri” i gystadlu mewn eisteddfodau fel unawdydd.
Yn archwilydd a chyfrifydd siartredig gyda chwmni PwC yng Nghaerdydd, mae’n derbyn hyfforddiant llais gan ddau athro, sef David Fortey o Ystrad Mynach a Gail Pearson o Landaf.
“Dw i wedi bod yn ffodus iawn i gael lwc ar yr eisteddfodau dros y blynyddoedd diwethaf, gan ddechrau yn Sir Fôn yn 2017 ar yr Unawd Tenor, a chael ail yn y fan honno,” meddai’r gŵr sydd yn ei ugeiniau hwyr.
“Yn Eisteddfod Caerdydd y flwyddyn ddiwethaf wedyn, roeddwn i’n ffodus o gael trydydd yn yr unawd tenor ac ail ar yr Unawd Lieder.
“Roedd pethe’n adeiladu i Lanrwst, ac roedd yn real sioc, i fod yn onest, i gael y ddwy wobr gyntaf ar y Lieder a’r Tenor, ac wedyn mynd trwyddo i’r Rhuban Glas.”