Fe fydd pump o gantorion yn brwydro am dlws Canwr y Byd yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd heno (nos Sadwrn, Mehefin 22).

Y pump sydd wedi dod i’r brig yw’r tenor Mingjie Lei o Tsieina, y bariton Andrei Kymach o’r Wcráin, y baswr Patrick Guetti o’r Unol Daleithiau, y mezzo-soprano Guadalupe Barrientos o’r Ariannin a’r soprano Sooyeon Lee o Dde Corea.

Daeth Mingjie Lei i frig cystadleuaeth Gwobr y Gân nos Iau, gan guro’r Gymraes Angharad Lyddon.

Bydd y cystadleuwyr yn perfformio’u dewisiadau i gyfeiliant Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, dan arweiniad Ariane Matiakh ac Ewa Strusińska.

Y brif wobr yw £20,000, Tlws Caerdydd a theitl Canwr y Byd Caerdydd y BBC.