Mae rhyw sŵn direidus wedi bod yn cuddio ar faes Eisteddfod yr Urdd amser cinio heddiw (dydd Mawrth, Mai 28).
Yn torri trwy sŵn y rhuthr, y canu a’r cymdeithasu ym Mae Caerdydd daw sŵn clarinetau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru o’u pabell.
Mae Carwyn Thomas o Landysul ar ei gwrs ôl-raddedig yn y coleg yng Nghaerdydd, ac mae o wedi bod yno ers oedd yn 12 oed. Ei gyfaill Jason Hill o swydd Dyfnaint sydd drws nesaf iddo ac mae yntau’n graddio yn ystod yr haf.
“Sŵn tlws iawn”
“Mae’r ddau ohonom ni’n chwarae’r clarinét yma i gael pobol i ddod i stondin Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru,” meddai Carwyn Thomas wrth golwg360.
“Wnaeth Motzart ddweud bod y clarinét y peth agosaf at y llais,” meddai wrth esbonio ei ddewis o offeryn.
“Y clarinét yw’r hawsaf i ddechrau gyda hi yn nheulu’r chwythbrennau ac mae’n haws mynd o glarinét i offerynnau eraill. Hefyd, mae’n gwneud sŵn tlws iawn ac rydych chi’n gallu cael synau gwahanol o’r clarinét.”
Gweithdai
Trwy gydol yr wythnos mae’r coleg yn cynnal gweithdai cerddoriaeth a theatr ac yn cyflwyno plant yr Urdd i gyrsiau yn y brifysgol.
Yfory, bydd cyfle i gymryd rhan mewn gweithdy goleuo llwyfan yn ogystal â gweld perfformiad gan Gareth Bonello a dydd Gwener (Mai 31) bydd cyfle i wneud pypedau theatr.