Fe allai ymchwil sydd newydd ei gyhoeddi awgrymu pa mor debygol yw criw o ddiffoddwyr tân o’r Trallwng o gyrraedd rhif un yn y siartiau Nadolig eleni.
Maen nhw ymhlith criw o weithwyr y gwasanaeth tân ym mhob rhan o wledydd Prydain sydd wedi dod ynghyd i ail-greu’r gân ‘Do They Know It’s Christmas?’.
Chris Birdsell-Jones o’r dref gafodd y syniad dros flwyddyn yn ôl o ail-greu’r gân a’i recordio.
Ar ddechrau’r mis, roedden nhw ymhlith y rhai oedd yn cael eu crybwll fel caneuon a allai gyrraedd y brig.
Mae arbenigwyr yn y label recordiau Ostereo wedi bwrw golwg ar y caneuon sydd wedi cyrraedd brig y siartiau bob Nadolig dros yr hanner canrif diwethaf er mwyn darganfod nodweddion cyffredin.
Ac maen nhw’n dweud mai ‘Always On My Mind’ gan y Pet Shop Boys yw’r gân sydd fwyaf nodweddiadol o’r Nadolig.
Beth yw’r gyfrinach?
Yn ôl yr ymchwilwyr, mae angen i’r gân Nadolig berffaith bara tair munud a 57 eiliad a bod yn y cywair G mwyaf.
Mae hefyd angen iddi fod â 114 o guriadau y funud, a chael ei pherfformio gan unawdydd 27 oed.
Baledi yw’r mwyafrif o ganeuon Nadolig sydd wedi cyrraedd y brig.