Mae Aelodau Seneddol Ewropeaidd wedi cymeradwyo newid yn y gyfraith er mwyn gwarchod hawlfraint cerddorion sy’n llwytho eu gwaith i’r we.
Cafodd y mesur ei addasu yn dilyn ymgais aflwyddiannus i’w basio ym mis Gorffennaf.
Cafodd mesur ei basio o 438 o bleidleisiau i 226, gan roi mwy o hawliau i berchnogion deunydd sy’n cael ei lwytho i wefan YouTube.
Yn sgil deddfwriaeth newydd, fe fydd gofyn i gwmnïau mawr fel Facebook a YouTube fod yn atebol am hawlfraint gwaith sy’n cael ei lwytho gan ddefnyddwyr.
Roedd y diwydiant yn galw am degwch i berchnogion y deunydd oherwydd ar hyn o bryd, byddai angen i fideo YouTube o gân gael ei gwylio 51.1 miliwn o weithiau er mwyn i ganwr ennill cyflog cyfartalog gwledydd Prydain – £27,600.
Bydd deddfwriaeth hawlfraint newydd yn cael ei thrafod gan Gyngor Ewrop, Comisiwn Ewrop a Senedd Ewrop er mwyn ei symud i’r cam nesaf.
Bydd pleidlais derfynol ar y ddeddfwriaeth ym mis Ionawr, lle mae disgwyl i’r newidiadau ddod i rym.
Y cynigion
Ymhlith y mesurau sy’n cael eu cynnig mae cyflwyno ffilter ar y we a fyddai’n sicrhau nad yw unrhyw ddeunydd sy’n cael ei lwytho i’r we yn mynd yn groes i ddeddfau hawlfraint.
Byddai hyn, meddai’r diwydiant, yn arwain at dâl teg i gerddorion am eu gwaith.
Ond mae gwrthwynebwyr yn dadlau y byddai hyn yn ei gwneud yn fwy anodd cael mynediad i wybodaeth ar y we yn gyffredinol.