Bydd digwyddiad yn Abertawe heno (dydd Iau, Medi 6) yn dynodi can mlynedd ers marwolaeth y gyfansoddwraig, Morfydd Llwyn Owen.
Bydd darlith yn cael ei thraddodi gan Dr Rhian Davies, Cyfarwyddwr artistig Gŵyl Gregynog, ar y testun ‘Dawn goeth a hardd: meddyliau ar ganmlwyddiant marw Morfydd Owen’.
Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn Theatr Ddarlithio Faraday, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe.
Mae wedi’i drefnu ar y cyd gan Gymdeithas Hanes Ystumllwynarth a Sefydliad Brenhinol De Cymru, sydd hefyd yn gweithredu fel Cyfeillion Amgueddfa Abertawe.
Hanes
Fe gafodd Morfydd Llwyn Owen ei geni yn Nhrefforest, Pontypridd.
Roedd yn cael ei chyfrif yn llsis mezzo-soprano av yn gyfansoddwraig enwog yn ei dydd, cyn iddi farw’n sydyn yn 26 oed yn 1918.
Mae wedi’i chladdu ym mynwent Ystumllwynarth, Abertawe.
Yn ystod ei hoes, fe gyfansoddodd dros 250 o gyfansoddiadau, yn eu plith ‘Gweddi y Pechadur’.