Mae cerddor o ardal Llandysul wedi mynd ati i roi bywyd newydd i eiriau hen faledwr o ardal Clonc.
Mae Owen Shiers yn hanu o Gapel Dewi, ac yn ddiweddar mae wedi cychwyn ar brosiect o’r enw ‘Cynefin’, gyda’r nod o ddarganfod a pherfformio hen faledi a chaneuon gwerin o Geredigion.
Ac yn rhinwedd y prosiect hwn, sy’n ceisio “darganfod tirwedd gerddorol Ceredigion a Gorllewin Cymru”, mae’r cerddor wedi dod ar draws hen faled a gafodd ei sgrifennu gan y baledwr dall, David Jones (1803-1868) – neu ‘Dewi Dywyll’ – o Lanybydder.
“Baled wleidyddol”
Mae lle i gredu bod y faled wedi’i sgrifennu rhywbryd yn y 1860au, wrth iddi gyfeirio at Ryfel Cartref yr Unol Daleithiau a’r effaith a gafodd y digwyddiad yr ochor draw i’r Iwerydd.
Roedd y rhyfel yn un rhwng taleithiau gogleddol a deheuol yr Unol Daleithiau, gyda nifer o dras Gymreig yn rhan o’r brwydro.
“Baled wleidyddol yw hi, ac mae’n trafod effaith y rhyfel ar werin Cymru, prisiau pethau pob dydd fel cotwm, glo a haearn a’r ffaith bod bechgyn ifanc yn cael eu llusgo i ffwrdd i ymladd mewn rhyfel mewn gwlad dierth,” meddai Owen Shiers.
“Mae’r awdur hefyd yn cwestiynu angenrheidrwydd rhyfel ei hun a’r gost erchyll ar fywydau.”
Addasu’r gwreiddiol
Ers darganfod y faled, mae Owen Shiers bellach yn ei chanu mewn nosweithiau cerddorol ledled y wlad, ac mae’n gobeithio ei chynnwys mewn albwm o ganeuon gwerin y bydd yn gweithio arno ym mis Hydre’.
Ond mae’r cerddor yn cyfaddef ei fod wedi cymryd “rhywfaint o artistic license” wrth addasu’r faled i gynulleidfaoedd cyfoes, gan nad oes neb, meddai, eisiau gwrando ar “faled sydd ag ugain o benillion hir undonog.”
Dyma glip ohono yn canu ei fersiwn ei hun o’r faled…