Mae Aelod Cynulliad Pontypridd, Mick Antoniw wedi awgrymu y dylai Cymru gael cystadlu fel gwlad unigol yng nghystadleuaeth ganu Eurovision.
Gorffennodd cystadleuydd Prydain, SuRie yn 24ain yn y gystadleuaeth yn Lisbon, Portiwgal neithiwr, a hynny ar ôl i aelod o’r gynulleidfa lwyddo i gyrraedd y llwyfan yn ystod ei pherfformiad.
Ond yn sgil Brexit, mae cwestiynau wedi codi am ddyfodol Prydain yn y gystadleuaeth.
Roedd Mick Antoniw yn siarad ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales pan awgrymodd ei bod yn “nonsens” awgrymu na ddylai Prydain gael parhau yn y gystadleuaeth.
Ond wrth geisio dychmygu’r dyfodol pe bai hynny’n digwydd, dywedodd y gallai Cymru, Lloegr a’r Alban gystadlu fel gwledydd unigol.
“Yr hyn sy’n gwestiwn diddorol yw y dylai Cymru, Lloegr a’r Alban, yn sgil Brexit, ddod yn aelodau ar wahân o’r Eurovision Song Contest ac y dylen ni gael cystadleuydd o Gymru ynddi.
“Mae gan Gymru dipyn i’w gynnig yn ddiwylliannol a dw i’n credu y byddai’n wych gweld Cymru ar y llwyfan hwnnw.”
‘Balchder’
Ychwanegodd Mick Antoniw ei fod yn “fater o falchder” fod Cymru’n cael ei gweld ar lwyfannau rhyngwladol.
“Does dim sicrwydd fod pob ymgais yn arbennig o dda nac yn mynd i gael cryn dipyn o gefnogaeth. Ond dw i’n credu ei fod yn fater o falchder fod gan wledydd gyfle i gyflwyno’u hunain yn ddiwylliannol ar y llwyfan Ewropeaidd.
“Dw i’n credu bod Eurovision yn gyfle gwych i wneud hynny.”