Mae’r gantores o Gastell-nedd, Katherine Jenkins, wedi rhoi genedigaeth i fab bach.

Fe ddaeth ei chyhoeddiad ar wefan rhannu lluniau, Instagram heddiw. Dyma ei hail blentyn gyda’i gwr, Andrew Levitas.

Mae’r mezzo-soprano, 37, eisoes yn fam i ferch fach, Aalaiyah Reign Levitas, a anwyd ddwy flynedd yn ôl.

Mae’r mab diweddaraf wedi’i enwi’n Xander, ond yn arddel enwau canol sy’n ei gysylltu gyda’i ddau ddiweddar dad-cu. Bu farw tad Katherine Jenkins o ganser yr ysgyfaint pan oedd hi’n ddim ond 15 oed, a bu farw ei thad-yng-nghyfraith hefyd o ganser pan oedd ei gwr yn ei arddegau.

Yn ei chapsiwn i’r llun, mae Katherine Jenkins yn dweud “Mae Andrew, Aaliyah a finnau’n falch o gyhoeddi fod ein mab hardd, Xander Robert Selwyn Levitas, wedi’i eni.”

Fel hyn y cyhoeddwyd geni Xander Robert Selwyn Levitas