Fe fydd Côr y Brythoniaid yn perfformio yng Ngŵyl Rhif Chwech a y seithfed blwyddyn yn olynol eleni.
Mi gafodd y côr meibion o Flaenau Ffestiniog ei sefydlu gan Meirion Jones yn 1964, a dros y blynyddoedd mae nhw wedi ennill nifer o wobrau cerddorol, ynghyd â theithio i wledydd ledled y byd.
Arweinydd y côr yw’r cerddor, John Eifion Jones, ac mae yntau a’i gyd-aelodau wedi bod yn atyniad ar y Piazza yng Ngŵyl Rhif Chwech, sy’n cael ei chynnal ym Mortmeirion, ers iddi gychwyn yn 2012.
Mae’r côr yn enwog yn yr Ŵyl am berfformio eu fersiynau eu hun o ganeuon Saesneg poblogaidd, megis ‘Blue Monday’ gan y band, New Order.
Mae nhw hyd yn oed wedi perfformio ar cyd â’r Pet Shop Boys, wrth iddyn nhw ganu’r gân, ‘Go West’, ar un o lwyfannau’r Ŵyl.