Gary Ryland ar raglen The Voice y llynedd (Llun cyhoeddusrwydd)
Mae’r canwr o Aberdâr, ‘Ragsy’, a ddaeth i amlygrwydd yn y gyfres deledu The Voice, wedi dechrau dysgu Cymraeg ar gwrs haf ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cafodd Gary Ryland ei fentora gan Syr Tom Jones fel cystadleuydd yn ail gyfres y rhaglen deledu boblogaidd ar y BBC.
Mae cwrs haf Prifysgol Caerdydd yn cynnig gwersi dwys dros yr haf i ddysgwyr lefel mynediad, canolradd ac uwch, yn ogystal â gloywi iaith i bobol sydd wedi dysgu yn y gorffennol ac sy’n dymuno ail-gydio yn yr iaith.
Cwrs i ddechreuwyr fydd Ragsy yn ei ddilyn.
Balchder… ond cywilydd
“Rwy’n edrych ymlaen at ddysgu’r iaith brydferth hon yng nghwmni pobol eraill frwd o’r un anian, er mwyn helpu i gyflawni fy uchelgais personol a gallu sgwrsio’n llawn yn fy mamiaith,” meddai’r canwr.
“Bob tro bydda i’n clywed rhywun yn siarad Cymraeg, bydda i’n teimlo balchder aruthrol mai ni sydd berchen ar yr iaith hardd, rythmig, chwilfrydig hon, sydd bron yn hudol.
“Mae hynny bob amser wedi cael ei ddilyn yn fuan gan ymdeimlad o gywilydd oherwydd nad wyf innau, er fy mod i’n Gymro balch, yn gallu deall na siarad iaith fy mamwlad”.
Mae e wedi cymharu’r profiad o ddysgu Cymraeg gyda pherfformio ar lwyfan – ond mae’n poeni am wneud camgymeriadau.
“Rydych chi bob amser ar binnau wrth gychwyn ar anturiaethau newydd ac mae ofn bob amser y byddwch chi’n gwneud rhywbeth yn anghywir,” meddai,
Fe recordiodd Ragsy ei gân Gymraeg gyntaf, ‘Fy hafan i’, y llynedd gyda chymorth cyflwynydd Radio Cymru, Tommo a’r cynhyrchydd Terwyn Davies. Cafodd y gân ei chyhoeddi ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Mae e’n awyddus i ganu mwy yn Gymraeg, ac mae’n dweud mai ei hoff eiriau Cymraeg yw ‘awyddus’, ‘bendigedig’, ‘cwtsh’ a ‘cariad’.