Stanislaw Skrowaczewski
Bu farw’r cyfarwyddwr cerddorol, Stanislaw Skrowaczewski, yn 93 oed.

Fe fu’n arwain cerddorfeydd yn yr Unol Daleithiau, Lloegr a Japan, am ddegawdau, a bu farw yn Ysbyty Fethodistaidd Park Nicollet yn St Louis Park, Minnesota.

“Mae’n anodd mynegi pa mor annwyl oedd Maestro Skrowaczewski i Gerddorfa Minnesota,” meddai llefarydd ar ran y gerddorfa ar ei thudalen Facebook. “Er ei fod yn teithio’r byd yn gweithio tan y llynedd, roedd yn dal i feddwl y byd o Minnesota.”

Gyda’r gerddorfa hon y gwnaeth Stanislaw Skrowaczewski ei gyngherddau ola’ ym mis Hydref 2016, gan arwain gweithiau gan Anton Bruckner. Dyna oedd ei arbenigedd.

Yn ystod ei gyfnod yn Minnesota, fe fu’r arweinydd yn allweddol yn y gwaith o sefydlu Orchestra Hall, y neuadd gyngerdd a agorwyd yn 1974 yn Minneapolis.